Papur Briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil ar gyfer y Pwyllgor Deisebau

Y Pwyllgor Deisebau | 13 Rhagfyr 2016

Rhif y ddeiseb: P-05-724

Teitl y ddeiseb: Hawliau i Ofal Iechyd Sylfaenol yn y Gymraeg

Testun y Ddeiseb: Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych eto ar y safonau arfaethedig ar gyfer y maes iechyd, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau iechyd sylfaenol megis meddygfeydd a fferyllfeydd, i sicrhau bod gan bobl hawliau llawn a chadarn yn y maes hollbwysig hwn.

 

Y cefndir

Yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, newidiwyd y fframwaith cyfreithiol o ran darpariaeth y Gymraeg mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Daeth ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Rheoliadau drafft i bennu Safonau'r Gymraeg ar gyfer y sector iechyd i ben ar 14 Hydref 2016. Bydd y safonau hyn yn rhoi'r grym i Gomisiynydd y Gymraeg osod dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg ar Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Lleol yng Nghymru. Tan hynny, bydd Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yn parhau i weithredu'n unol â chynllun iaith Gymraeg (sy'n ddyletswydd a osodwyd ar sefydliadau yn y sector iechyd yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993).

 

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi bod yn cynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn unol â chynlluniau iaith Gymraeg a chynllun Llywodraeth Cymru 'Mwy na geiriau'.  Er mwyn sicrhau bod gan siaradwyr Cymraeg fwy o hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd, mae Llywodraeth Cymru'n cyflwyno rheoliadau i wneud yn saff bod hyn yn digwydd. Unwaith y bydd y rheoliadau wedi cael eu cymeradwyo gan y Cynulliad, bydd gan Gomisiynydd y Gymraeg yr awdurdod i roi hysbysiadau cydymffurfio i sefydliadau sydd wedi'u henwi yn y rheoliadau. Mae'r hysbysiadau cydymffurfio hyn yn esbonio pa safonau a gaiff eu cyflwyno ynghyd â'r lefel cydymffurfio a safon gwasanaeth y mae disgwyl i sefydliadau ymgyrraedd â nhw.

Bydd sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg yn her i'r sector, yn arbennig oherwydd nifer ac ystod y gwahanol wasanaethau iechyd yng Nghymru.  Bydd angen i sefydliadau weithio'n wahanol yn y dyfodol. Dyma'r gwasanaethau iechyd a gaiff eu heffeithio gan y safonau: Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Lleol, Cynghorau Iechyd Cymuned, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG, a chyrff arolygu. Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal ymchwiliad safonau i benderfynu pa safonau y dylid eu cymhwyso i bob gwahanol fath o wasanaeth iechyd. Ni fydd pob un o'r safonau'n berthnasol ar gyfer pob sefydliad, ond bwriedir iddynt wella gwasanaethau Cymraeg ar draws y sector, cryfhau'r cynnig gweithredol (hynny yw, cynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, nid eu cynnig pan fo rhywun yn gofyn yn unig), ei gwneud yn eglur beth yn union y mae disgwyl i'r gwasanaethau iechyd eu cynnig i'r cyhoedd, a gosod safonau tebyg ar fathau tebyg o wasanaethau iechyd. 

Fodd bynnag, ni fydd y safonau'n berthnasol mewn rhai amgylchiadau. Ymysg yr eithriadau hyn mae galwadau 999 ac ysbytai preifat. Mae cyflwyno Safonau'r Gymraeg ar gyfer gofal sylfaenol, gan gynnwys meddygfeydd, deintyddfeydd, fferyllfeydd a gwasanaethau optegol yn gymhleth gan fod nifer ohonynt yn cynnig gwasanaethau preifat hefyd. Mae'r drafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif [Y sector iechyd]) 2016, yn nodi:

Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio â’r safonau—

(a) pa un a yw’n cyflawni’r gweithgaredd neu’n darparu’r gwasanaeth; neu

(b) pa un a yw’n cael ei gyflawni neu’n cael ei ddarparu ar ei ran gan drydydd parti o dan drefniadau a wneir rhyngddynt hwy.

Byddai darparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol, at y diben hwn, yn cael eu hystyried fel trydydd parti. Fodd bynnag, â'r Rheoliadau drafft ymlaen i nodi:

Pan fo’r trydydd parti yn ddarparwr gofal sylfaenol, yn ysbyty preifat yng Nghymru neu’n ysbyty y tu allan i Gymru, yna nid yw unrhyw safonau yn gymwys.

Where the body is providing primary care services, only some standards will apply (see standards 83 to 97).

 

Mae'r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y safonau wrthi'n cael eu hadolygu.

 

Gwybodaeth ddefnyddiol

Adroddiad ymchwiliad statudol cyntaf Comisiynydd y Gymraeg, Fy Iaith, Fy Iechyd: Ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg i Ddarpariaeth y Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol (Mehefin 2014)